Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Mai 2019
Amser:
08.30 -
09.15
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd arweinydd y grŵp UKIP, yn dilyn trafodaethau ar ôl cyfarfod yr wythnos diwethaf, yn cael ei alw i ofyn dau gwestiwn arweinydd i'r Prif Weinidog bob wythnos, a gall UKIP ofyn dau gwestiwn llefarwyr ar dair sesiwn cwestiynau llafar o'u dewis hwy. Ni fyddant yn cael eu galw i ofyn cwestiynau llefarwyr i Weinidogion eraill. Pan na fydd ganddynt gwestiynau llefarwyr, bydd y Llywydd yn gwneud pob ymdrech i'w galw i ofyn cwestiynau atodol lle bo hynny'n bosibl. Bydd UKIP yn hysbysu'r Llywydd erbyn diwedd y dydd heddiw o'u dewis o dri slot cwestiynau llafar; er eu bod yn rhydd i newid eu dewisiadau ar ddechrau unrhyw dymor, bydd angen iddynt roi gwybod i'r Llywydd am unrhyw newidiadau.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd adolygiad o'r Cod Ymddygiad i Ymwelwyr yn cael ei gynnal, yn enwedig mewn perthynas â'r oriel gyhoeddus, yn dilyn y ddadl ar newid yn yr hinsawdd yr wythnos diwethaf.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl y ddadl ar 'Fodel Gofal Sylfaenol i Gymru', a chyn anerchiadau'r Llywydd a'r Prif Weinidog i nodi ugain mlynedd ers datganoli.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 6.05pm.
Dydd Mercher
· Nododd y Rheolwyr Busnes fod Plaid Cymru wedi cyflwyno dwy ddadl 30 munud ac wedi tynnu un yn ôl, ac felly bydd ei dadl bellach yn para 60 munud.
· Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 7.00pm.
Nododd y Rheolwyr Busnes y nifer fach o ddadleuon llywodraeth dros y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 22 Mai 2019 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth (60 munud)
Dydd Mercher 5 Mehefin 2019 -
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 15 Mai:
NNDM7002
Jenny Rathbone
Dai Lloyd
Joyce Watson
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y gall prydau ysgol iach, maethlon wneud cyfraniad hanfodol i les, cyrhaeddiad ac ymddygiad cadarnhaol disgyblion.
2. Yn nodi bod adroddiad y Comisiynydd Plant, Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith Tlodi, yn darparu tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael yr hawl a nodir yng nghanllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) egluro ai cyfrifoldeb llywodraethwyr ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru yw safonau prydau ysgol a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn cael eu monitro; a
b) amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu faint o fwyd ar gyfer ysgolion sy'n cael ei gaffael yn lleol fel rhan o'i phwyslais ar yr economi sylfaenol.
Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith Tlodi
Bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir: Canllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu
Cefnogir gan:
Darren Millar
David J Rowlands
Mike Hedges
Russell George
Vikki Howells
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 5 Mehefin:
NNDM7029
John Griffiths
Dawn Bowden
Mike Hedges
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth trechu tlodi, gyda chyllideb a chynllun gweithredu manwl ar gyfer gweithredu.
2. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r meysydd cyfrifoldeb ar gyfer trechu tlodi ym mhob portffolio gweinidogol.
3. Yn cydnabod ac yn llywio atebolrwydd ar gynnydd a wneir ar yr agenda trechu tlodi.
Cefnogir gan:
Jayne Bryant
Siân Gwenllian
Vikki Howells
Huw Irranca-Davies
Mark Isherwood
Dai Lloyd
Lynne Neagle
Jenny Rathbone
David Rees
David J Rowlands
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i ddychwelyd ato yr wythnos nesaf ar ôl ymgynghori â'u grwpiau.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i barhau â thrafodaethau y tu allan i'r Pwyllgor.
Pwyllgor Safonau - Gareth Bennett
Cyn y Pasg, cymeradwyodd y Cynulliad argymhelliad y Pwyllgor Safonau y dylid dileu Gareth Bennett o fod yn aelod o'r Pwyllgor hwnnw am weddill y Cynulliad hwn.
Disgwylir i'r Pwyllgor Safonau gwrdd nesaf ar 14 Mai, ac felly byddai angen gwneud unrhyw newid yr wythnos hon er mwyn iddo gael effaith mewn pryd. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddileu Gareth Bennett fel aelod o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad; i'w drafod yn ystod Cyfarfod Llawn yfory. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater o enwebiad i lenwi'r sedd wag maes o law.